Cyllid & Thollau EM

Sut fydd y system yn gwybod sut i gyfrifo fy ffigurau os ydw i'n defnyddio'r cynllun cyfradd unffurf?

Rydych yn parhau'n gyfrifol am ddilyn y rheolau cyfrifyddu arbennig sy'n berthnasol os ydych yn defnyddio'r cynllun cyfradd unffurf. I'r perwyl hwnnw does dim gwahaniaeth rhwng y ffurflen dreth bapur a'r un ar-lein. Dilynwch y cysylltiad Cynllun Cyfradd Unffurf ar gyfer busnesau bach am wybodaeth ynghylch sut i lenwi eich ffurflen dreth os ydych yn defnyddio'r cynllun.