Cyllid & Thollau EM

Lwfans Cyflogaeth

Mae hwn yn lwfans blynyddol o hyd at £2000 ar gyfer pob cyflogwr cymwys i'w osod yn erbyn Cyfraniadau Yswiriant Gwladol (CYG) Dosbarth 1 Eilaidd. Y swm a ddangosir yma yw'r swm rydych wedi'i ddefnyddio'r mis hwn.

O bryd i'w gilydd, mae'n bosib y bydd oedi byr cyn bod eich gwybodaeth FPS (CYG y cyflogwr) yn cael ei chynnwys yn swm eich Lwfans Cyflogaeth. Mae Cyllid a Thollau EM yn argymell eich bod yn gwirio eto mewn ychydig o ddyddiau.