1091 - Mis terfynol y Ffurflen TAW a gyflwynwyd ddiwethaf
Dyma fis terfynol y Ffurflen TAW ddiwethaf a gyflwynwyd ac nid y dyddiad pan oedd y Ffurflen yn ddyledus neu pan gafodd ei chyflwyno i Gyllid a Thollau EM. Dewiswch N/A os ydych chi (neu eich cleient) wedi cofrestru ar gyfer TAW ond heb gyflwyno ffurflen TAW hyd yma.
- Os yw Ffurflenni TAW yn cael eu hanfon bob mis, defnyddiwch y mis ar gyfer y Ffurflen TAW ddiwethaf a gyflwynwyd.
- Os ydych chi (neu eich cleient) yn defnyddio'r Cynllun Cyfrifyddu Blynyddol ac wedi cyflwyno dim ond un Ffurflen TAW bob blwyddyn, dewiswch y mis pan ddaeth y cyfnod Ffurflen TAW diwethaf i ben.
- Os oes gennych chi (neu eich cleient) Gyfnodau Treth Ansafonol (nid yw'r Ffurflen TAW yn gorffen ar ddiwedd mis) defnyddiwch y mis y pan ddaw'r cyfnod TAW i ben.
- Os ydych wedi cofrestru ar gyfer TAW ar Ynys Manaw dewiswch N/A.