Cyllid & Thollau EM

UTR

Cyllid a Thollau EM a fydd wedi anfon Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) pan wnaethoch chi neu eich cleient gofrestru ar gyfer Treth Gorfforaeth. Mae'n cynnwys deg rhif, er enghraifft 1234567890, a gellir ei ganfod ar yr Hysbysiad i gyflwyno Ffurflen Dreth y Cwmni (CT603). Gellir ei ganfod hefyd ar ddogfennau eraill rydym wedi eu hanfon.

Yn ddibynnol ar y math o ddogfen a anfonwyd gallai'r cyfeirnod fod wedi ei argraffu wrth ochr y pennawdau 'Cyfeirnod Treth', 'UTR' neu 'Defnydd Swyddogol'.