Ewch yn syth i‘r prif gynnwys

Telerau ac Amodau Gwasanaethau ar-lein CThEF

Unigolion, sefydliadau ac asiantau

Mae Gwasanaethau Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn galluogi Unigolion i anfon gwybodaeth dros y Rhyngrwyd (er enghraifft Ffurflen Dreth Hunanasesiad, cais am Gofrestriad TAW), bwrw golwg dros gofnodion ar-lein (er enghraifft Datganiad Hunanasesiad) a gwneud taliadau. Yn y dyfodol, mae’n bosibl y caiff gwasanaethau a nodweddion ychwanegol eu hychwanegu. Mae manylion llawn o’r gwasanaethau sydd ar gael ar hyn o bryd ar dudalen Gwasanaethau Ar-lein CThEF .

Gallwch gofrestru ar gyfer Gwasanaethau Ar-lein CThEF fel Unigolyn, Sefydliad, neu fel Asiant, ar wefannau GOV.UK neu Borth y Llywodraeth.

Os cofrestrwch ar wefan GOV.UK, caiff y manylion a ddarparwch eu trosglwyddo i Borth y Llywodraeth er mwyn eu dilysu (ar ran CThEF). Os yn llwyddiannus, caiff eich manylion cofrestru, gan gynnwys eich enw a chyfeiriad e-bost, eu storio’n ddiogel ar system Porth y Llywodraeth, yn unol â pholisi preifatrwydd Porth y Llywodraeth. Gallwch weld polisi preifatrwydd Porth y Llywodraeth ar eu gwefan.

Gellir defnyddio eich cyfeiriad e-bost, gan Borth y Llywodraeth er mwyn cyfathrebu gyda chi ac anfon negeseuon atoch mewn perthynas â gwasanaethau ar-lein eraill y Llywodraeth os byddwch yn dewis cofrestru ar gyfer y gwasanaethau hynny.

Os cofrestrwch ar wefan GOV.UK, gellir storio eich manylion cofrestru ar systemau CThEF hefyd. Gallwch fwrw golwg dros Bolisi Preifatrwydd CThEF ar y wefan GOV.UK.

Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair

Defnyddir eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair (neu Dystysgrif Ddigidol) i gadarnhau pwy ydych a dilysu’r wybodaeth a anfonwch. Cânt eu cadw’n ddiogel ar Borth y Llywodraeth ac ni fyddant ar gael i adrannau’r llywodraeth.

Mae Porth y Llywodraeth yn defnyddio’r cyfeiriad post a gofrestrir ar systemau perthnasol CThEF er mwyn anfon Cod Cychwyn y gwasanaeth (os oes ei angen). Ar ôl i Borth y Llywodraeth anfon yr wybodaeth hon, caiff eich cyfeiriad ei ddileu o Borth y Llywodraeth.

Dadgofrestru

Mae’n rhaid dadgofrestru o Wasanaethau Ar-lein CThEF naill ai ar Borth y Llywodraeth neu ar wefan GOV.UK.

Mewngofnodi

Pan fyddwch wedi cofrestru, gallwch fewngofnodi i wefan GOV.UK trwy ddefnyddio eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair (neu Dystysgrif Ddigidol) i gael mynediad at Wasanaethau Ar-lein CThEF. Caiff eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair wedi eu hamgryptio (neu Dystysgrif Ddigidol) eu trosglwyddo i Borth y Llywodraeth er mwyn eu dilysu.

Diogelwch

Mae’n rhaid i chi gadw eich Dynodydd Defnyddiwr a’ch cyfrinair (neu Dystysgrif Ddigidol) yn ddiogel ac yn gyfrinachol drwy’r amser. Ni ddylech byth eu rhannu ag unrhyw un arall, gan gynnwys eich asiant treth, eich cyfrifydd neu’ch cynrychiolydd. Gallwch newid eich cyfrinair ar wefannau CThEF neu Borth y Llywodraeth.

Os anghofiwch eich Dynodydd Defnyddiwr (ID), gallwch ofyn am iddo gael ei ailanfon atoch naill ai drwy’r post neu ar-lein, drwy ddefnyddio gwefan GOV.UK. Os anghofiwch eich cyfrinair, gallwch ofyn am un arall gael ei anfon atoch naill ai drwy’r post neu ar-lein, trwy ddefnyddio gwefan GOV.UK.

Os collwch eich Dynodydd defnyddiwr (ID) yn ogystal â’ch cyfrinair, bydd angen i chi gysylltu â Desg Gymorth Gwasanaethau Ar-lein CThEF (mae’r manylion ar gael ar wefan CThEF).

I gael arweiniad manwl ar ddiogelwch ar-lein, dilynwch y cysylltiad Diogelwch ar-lein – gwneud eich profiad ar-lein mor ddiogel â phosibl.

Blwch post diogel

Pan fyddwch yn cofrestru am y tro cyntaf, caiff blwch post ar-lein diogel ei greu ar eich cyfer ar Borth y Llywodraeth. Efallai y bydd rhai gwasanaethau ar-lein yn defnyddio’r blwch post diogel er mwyn anfon dogfennau cyfathrebu, ac atebion i gwestiynau ar e-bost, atoch. Gallwch weld cynnwys eich blwch post diogel ar gyfer y gwasanaethau hyn ar wefan GOV.UK.

Dylech edrych yn eich blwch post yn rheolaidd a dileu hen negeseuon. Bydd negeseuon sydd wedi cael eu darllen, ac wedi bod ar y system am hyd at dri mis ers dyddiad eu hanfon, yn cael eu harchifo a’u dileu o’ch blwch post. Bydd negeseuon sydd heb eu darllen, ac wedi bod ar y system am hyd at 12 mis ers dyddiad eu hanfon, yn cael eu harchifo a’u dileu o’ch blwch post.

Gwasanaethau cyflwyno ar-lein

Wrth ddefnyddio gwasanaethau cyflwyno ar-lein CThEF, rhaid i chi ddefnyddio naill ai meddalwedd neu, pan fo ar gael, meddalwedd trydydd parti sy’n gallu cyflwyno Ffurflenni Treth ar-lein. Ar yr adeg briodol, bydd y feddalwedd yn gofyn i chi nodi Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair (neu Dystysgrif Ddigidol) er mwyn cadarnhau pwy ydych a dilysu’r wybodaeth a anfonwch.

Mae rhai gwasanaethau ar-lein yn caniatáu i chi anfon atodiadau (er enghraifft ffeiliau PDF) gyda’r Ffurflen Dreth. Mae’n rhaid i unrhyw atodiadau a anfonwch gyda’r Ffurflen Dreth fod yn briodol ac yn gyflawn a rhaid bod CThEF yn gallu ei gweld. Os am unrhyw reswm na all CThEF weld cynnwys yr atodiadau, neu os nad ydynt yn briodol ac yn gyflawn, efallai na fodlonir eich ymrwymiad i gyflwyno Ffurflen Dreth. Er y bydd CThEF yn eich hysbysu am hyn cyn gynted â phosibl, ni all CThEF warantu gwneud hynny mewn da bryd er mwyn i chi osgoi talu cosbau.

Mae gan Ffurflenni Treth, hawliadau, ffurflenni cais neu ffurflenni wedi’u dilysu a anfonir dros y Rhyngrwyd ac a dderbynnir gan systemau CThEF yr un dilysrwydd cyfreithiol ac oblygiadau â Ffurflenni Treth papur, hawliadau neu ffurflenni wedi’u llofnodi a anfonir i swyddfa CThEF.

Mae rhai Gwasanaethau Ar-lein CThEF yn gofyn i chi gyflwyno gwybodaeth ar bapur. Dywedir wrthych ar y sgrin os mai dyma’r achos a phan yn briodol cewch eich tywys at y ffurflen briodol er mwyn ei lawrlwytho.

Cyffredinol

Gall CThEF adolygu’r Telerau ac Amodau hyn wrth i wasanaethau ddatblygu. Gall CThEF wneud y canlynol:

  • ddefnyddio’r gwasanaeth rhyngrwyd hwn ar gyfer unrhyw ran o ddeliadau CThEF â chi mewn perthynas ag unrhyw un o’r gwasanaeth y cofrestrwch ar eu cyfer
  • tynnu gwasanaethau a nodweddion yn ôl neu eu hychwanegu neu newid y modd y gallwch gyrchu’r gwasanaethau hynny heb roi rhybudd o flaen llaw – er y budd CThEF yn ceisio rhoi rhydudd i chi o unrhyw newidiadau

Gallwch fwrw golwg dros Delerau ac Amodau CThEF ar unrhyw adeg drwy ddilyn y cysylltiad Telerau ac Amodau ar waelod unrhyw dudalen we Gwasanaeth Ar-lein CThEF.

Defnydd awdurdodedig

Mae hon yn wefan Llywodraeth y Deyrnas Unedig sydd wedi’i diogelu. Mae cael mynediad heb awdurdod ac addasu heb awdurdod yn droseddau o dan Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990. Y mae’n anghyfreithlon felly i achosi niwed iddi yn fwriadol neu unrhyw gyfleuster neu ddata electronig drwy drosglwyddo unrhyw raglen, wybodaeth, cod neu orchymyn yn fwriadol.

Oni nodi’r fel arall, mae’r deunydd a welir ar y safle hwn wedi ei ddiogelu gan Hawlfraint y Goron.

Mynediad at y wasanaeth

Bydd CThEF yn ceisio sicrhau bod y gwasanaeth ar-lein ar gael 24 y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Os ymyrrir ar y gwasanaeth bydd CThEF yn ei adfer cyn gynted â phosibl. Fodd bynnag, gellir atal mynediad at y gwasanaeth yn ddirybudd. Os ymyrrir ar y gwasanaeth, mae’n parhau i fod yn gyfrifoldeb arnoch i gydymffurfio ag unrhyw derfynau amser statudol ynglŷn â chyflwyno datganiadau a Ffurflenni Treth.

Mae CThEF yn cadw’r hawl i wrthod mynediad at y gwasanaeth pan ystyrir bod hynny’n angenrheidiol i warchod cyllid, er enghraifft i warchod y cyllid a/neu gywirdeb y gwasanaeth.

Gwybodaeth mewn perthynas â’ch ymrwymiadau statudol

Gallwch gael mynediad at wybodaeth gyfreithiol ac arweiniad sy’n ymwneud â’ch ymrwymiadau statudol mewn perthynas â’r gwasanaethau ar-lein amrywiol trwy fynd i adran ‘Eich cyfrif’. Dylech sicrhau eich bod yn gyfarwydd â’r wybodaeth hon oherwydd cewch wybod beth yw eich gofynion ar gyfer defnyddio gwasanaethau ar-lein.

Bydd diweddariadau i’r wybodaeth hon yn cael eu rhoi yn yr ardal Amodau cyfreithiol sydd ar gael drwy’r ardal ‘Eich cyfrif’. Dylech sicrhau eich bod yn gwybod am y newidiadau diweddaraf ynglŷn â’ch ymrwymiadau cyfreithiol drwy edrych ar yr adran hon yn rheolaidd.

Rhwymedigaeth

Mae CThEF yn gwneud pob ymgais i sicrhau cywirdeb a dibynadwyedd yr wybodaeth sydd wedi ei chynnwys yn y cyhoeddiadau a’r gwasanaethau sy’n cael eu storio, eu gwasanaethu a’u cyrraedd drwy’r gwasanaeth gwe hwn, ond ni ddylid dibynnu ar yr wybodaeth hon yn unig a dylid ceisio cyngor ffurfiol gan CThEF. Darperir y deunyddiau a gynhwysir ar y wefan hon er gwybodaeth gyffredinol yn unig ac nid ydynt yn gyfystyr â chyngor o unrhyw ffurf.

Ni fydd CThEF, ei gyflogeion ac Asiantau yn gyfrifol am unrhyw golled, sut bynnag y mae’n codi, o ganlyniad i ddefnyddio neu ddibynnu ar yr wybodaeth hon. Ni fydd CThEF yn atebol am unrhyw ddifrod arbennig, cysylltiedig, anuniongyrchol neu ddilynol o unrhyw fath, gan gynnwys, heb gyfyngiad, y rheiny sy’n codi o ganlyniad i golli defnydd, data neu elw, sut bynnag fydd y difrod hwnnw’n codi.

Trwy ddarparu cysylltiadau â gwefannau eraill, nid yw CThEF yn gwarantu, yn cymeradwyo nac yn cefnogi’r wybodaeth neu’r cynnyrch sydd ar gael ar y gwefannau hyn, ac nid yw cysylltiad o reidrwydd yn dangos bod gan CThEF unrhyw gysylltiad â gwefan gysylltiedig nac yn ei chefnogi.

Ni fydd CThEF yn atebol am unrhyw ymyrraeth neu fethiant sy’n golygu nad yw’r system ar gael.

Rheoli data

Pan ymyrrir ar systemau CThEF o ganlyniad i fethiant yn y system, cedwir gwybodaeth mewn storfa ffeiliau ddiogel ym Mhorth y Llywodraeth am hyd at 3 diwrnod. Caiff gwybodaeth ei throsglwyddo i systemau CThEF cyn gynted â phosibl.

Y Gyfraith gymwys

Bydd Telerau ac Amodau’r cytundeb hwn yn cael eu dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr ac yn destun awdurdodaeth unigryw llysoedd Cymru a Lloegr.

Pwyntiau ychwanegol i unigolion

Blwch post diogel

Os dewiswch gael y canlynol drwy ddull electronig - hysbysiadau statudol, penderfyniadau, amcangyfrifon a nodynnau atgoffa sy’n ymwneud â’ch materion treth a chredydau treth (a allai gynnwys hysbysiad i gyflwyno Ffurflen Dreth, adnewyddu’ch credydau treth, gwneud taliad neu wybodaeth am faterion eraill sy’n gysylltiedig) - yna caiff y rhain eu hanfon i flwch post diogel ar-lein penodedig ac ar wahân. Mae’r blwch post hwn yn wahanol i’r blwch post diogel sydd wedi’i greu ar eich cyfer ar Borth y Llywodraeth.

Hysbysiad statudol, penderfyniadau, amcangyfrifon a nodynnau atgoffa sy’n ymwneud â’ch materion treth a chredydau treth

I anfon hysbysiadau statudol, penderfyniadau, amcangyfrifon a nodynnau atgoffa yn ymwneud â’ch materion treth a chredydau treth, gellir defnyddio rhai gwasanaethau ar-lein neu’r blwch post ar-lein diogel. Gallwch fwrw golwg dros y rhain yn ddiogel ar wefan GOV.UK. Gallwch hefyd eu hargraffu neu eu cadw ar eich cyfrifiadur eich hun. Bydd gan yr hysbysiadau statudol, penderfyniadau, amcangyfrifon a nodynnau atgoffa sy’n ymwneud â’ch materion treth a chredydau treth (sydd ar gael yn y modd hwn gan CThEF), yr un effaith gyfreithiol â’r hysbysiadau statudol, penderfyniadau, amcangyfrifon a nodynnau atgoffa sy’n ymwneud â’ch materion treth a chredydau treth a anfonir atoch drwy’r post.

Gofynnir i chi roi’ch caniatâd cyn bo CThEF yn anfon hysbysiadau statudol, penderfyniadau, amcangyfrifon a nodynnau atgoffa yn ymwneud â’ch materion treth a chredydau treth atoch, gan ddefnyddio’r blwch post ar-lein. Os felly, gofynnir i chi roi’ch caniatâd ar y sgrîn. Os byddwch yn rhoi’ch caniatâd, bydd angen i chi gofrestru cyfeiriad e-bost gyda CThEF. Bydd CThEF yn dilysu’r manylion hyn gyda chi. Pan anfonir hysbysiadau statudol, penderfyniadau, amcangyfrifon a nodynnau atgoffa yn ymwneud â’ch materion treth a chredydau treth atoch drwy ddefnyddio’ch blwch post diogel ar-lein, caiff e-bost hysbysu hefyd ei anfon at eich cyfeiriad e-bost cofrestredig i roi gwybod i chi am hyn.

Dylech gadw manylion eich cyfeiriad e-bost cofrestredig wedi’u diweddaru a rhoi gwybod i CThEF am unrhyw newidiadau.

Os byddwch yn rhoi caniatâd, efallai y gofynnir i chi hefyd gofrestru rhif ffôn gyda CThEF. Pan anfonir hysbysiadau statudol, penderfyniadau, amcangyfrifon a nodynnau atgoffa yn ymwneud â’ch materion treth a chredydau treth atoch, efallai y bydd CThEF hefyd yn anfon neges destun i’r rhif ffôn hwn, neu i rif ffôn yn ystod y dydd yr ydych eisoes wedi’i roi i CThEF, i roi gwybod i chi am hyn. Dylech gadw manylion eich rhif ffôn cofrestredig wedi’u diweddaru a rhoi gwybod i CThEF am unrhyw newidiadau.

Talu trwy Ddebyd Uniongyrchol gan ddefnyddio gwasanaeth Debyd Uniongyrchol Ar-lein CThEF

Dylech fod yn ymwybodol o’r canlynol:

  • Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau y bydd CThEF yn derbyn taliad, ac y bydd wedi ei glirio i gyfrif CThEF, ar neu cyn y dyddiad talu. Gallai methu â gwneud hynny olygu y codir llog a/neu ordal.
  • Nid yw sefydlu Cyfarwyddyd Debyd Uniongyrchol a chynllun talu yn golygu bod CThEF yn cytuno naill ai â’r dyddiad(au) talu a nodwch neu i ohirio ymofyn am unrhyw ddyled sydd hwyr.
  • Caiff cynllun ad-dalu Credyd Treth ei dderbyn dim ond os yw’n cwmpasu’r rhwymedigaeth lawn am y cyfnod a nodir.
  • Mae cynllun talu yn rhoi’r modd i chi dalu tuag at rwymedigaeth Hunanasesiad yn y dyfodol. Nid yw’n golygu bod CThEF yn cytuno naill ai â’r dyddiad(au) talu a nodwch neu i ohirio mynd ar ôl unrhyw ddyled sy’n hwyr.

Trwy roi mynediad at Ddefnyddwyr a Chynorthwywyr, rydych yn rhoi mynediad at y gwasanaeth Debyd Uniongyrchol ar-lein i’r defnyddiwr hwnnw.

Talu TAW trwy Ddebyd Uniongyrchol gan ddefnyddio gwasanaeth Cyfarwyddyd Debyd Uniongyrchol ar-lein

Dyma’r eitemau a’r amodau ar gyfer talu’r TAW sy’n ddyledus ar Ffurflenni Treth trwy Ddebyd Uniongyrchol.

I dalu trwy Ddebyd Uniongyrchol, mae angen i chi’n gyntaf gofrestru ac ymrestru ar gyfer y gwasanaeth Ffurflenni TAW.

Mae’n rhaid i Ffurflenni TAW y mae Debyd Uniongyrcholi’w gasglu ar eu cyfer gael eu cyflwyno trwy ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein ar gyfer Ffurflenni TAW.

Dylech sicrhau y bydd eich Banc/Cymdeithas Adeiladu yn derbyn Cyfarwyddyd Debyd Uniongyrchol ar gyfer eich cyfrif enwebedig. Dim ond ar yr amod eu bod yn derbyn y DDI y gellir gwneud casgliadau’r Debyd Uniongyrchol.

Bydd cyflwyno Cyfarwyddyd Debyd Uniongyrchol yn gweithredu fel cadarnhad eich bod yn derbyn ac yn cydymffurfio â’r telerau ac amodau hyn.

Wrth gyflwyno Cyfarwyddyd Debyd Uniongyrchol ar-lein, rhaid i chi fod wedi eich awdurdodi i lofnodi ar gyfer y cyfrif. Rhaid mai chi yw unig lofnodwr y cyfrif, un o nifer o lofnodwyr y cyfrif, neu wedi eich awdurdodi i lofnodi ar ran yr holl lofnodwyr eraill.

Rhaid i chi hefyd fod yn gweithredu yn unol â’r cyfarwyddyd sydd gennych gyda’ch Banc/Cymdeithas Adeiladu.

Rhaid i’r cyfrif y cesglir eich Debyd Uniongyrchol ohono fod yn gyfrif banc sterling sydd wedi’i gofrestru yn y DU.

Y swm a gesglir bydd y TAW net sy’n ddyledus i CThEF fel a ddatganwyd ym mlwch 5 eich ffurflen TAW ar-lein. Rhaid i chi sicrhau bod arian digonol wedi ei glirio ac ar gael yn eich cyfrif i dalu’r swm sydd wedi ei ddatgan ar y diwrnod casglu. Byddwn yn eich hysbysu o’r dyddiad ar gyfer casglu ar-lein pan fyddwch yn cyflwyno eich Ffurflen Dreth.

Dim ond y swm a gafodd ei ddatgan ar eich Ffurflen TAW ar-lein a gaiff ei gasglu trwy Ddebyd Uniongyrchol. Rhaid i chi drefnu i dalu rhwymedigaethau TAW eraill (er enghraifft, gordal, cosbau neu log) trwy ddulliau talu amgen.

Mae’n bosibl y gallech fod yn agored i gosb ariannol os na chaiff eich Ffurflen Dreth ei chwblhau a’r holl TAW sy’n daladwy eu derbyn erbyn y dyddiadau cau. Os, am unrhyw reswm, rydych yn ymwybodol na fydd y Debyd Uniongyrchol yn cael ei gasglu’n llwyddiannus, rhaid i chi ddefnyddio dull amgen i dalu erbyn y dyddiad cau.

Ni fydd manylion y cyfrif Banc/Cymdeithas Adeiladu y gwnaethoch eu cyflwyno ar gyfer talu’r TAW sy’n ddyledus trwy Ddebyd Uniongyrchol (ac unrhyw newidiadau i’r manylion hynny a hysbysir i ni’n hwyrach) yn effeithio ar unrhyw fanylion cyfrif Banc/Cymdeithas Adeiladu arall y gallai fod gennym at ddibenion eraill h.y. ar gyfer ad-dalu hawliadau TAW.

Ni allwch ganslo neu ddiwygio eich Cyfarwyddyd Debyd Uniongyrchol trwy ein gwasanaeth ar-lein. Yn lle hynny, dylech hysbysu eich Banc/Cymdeithas Adeiladu a byddant yn rhoi gwybod i ni’n awtomatig am unrhyw newidiadau. Mae hyn yn cynnwys pan gaiff eich Cyfarwyddyd Debyd Uniongyrchol ei drosglwyddo i fanc neu gymdeithas adeiladu wahanol, neu pan gaiff ei drosglwyddo i gangen wahanol o fewn yr un banc/cymdeithas adeiladu. Byddwn ond yn gallu gwneud newidiadau a hysbysir drwy eich Banc/Cymdeithas Adeiladu.

Pwyntiau ychwanegol i sefydliadau

Hysbysiadau statudol, nodynnau atgoffa a thystysgrifau

Efallai y caiff rhai gwasanaethau ar-lein eu defnyddio i anfon hysbysiadau statudol (megis hysbysiadau cod TWE) a nodynnau atgoffa atoch. Gallwch weld yr hysbysiadau a’r nodynnau atgoffa yn ddiogel ar wefan GOV.UK neu, yn y rhan fwyaf o achosion, drwy ddefnyddio rhaglenni meddalwedd trydydd parti. Gallwch hefyd eu hargraffu neu eu cadw ar eich cyfrifiadur eich hun. Bydd gan hysbysiadau statudol a anfonir fel hyn gan CThEF yr un dilysrwydd a goblygiadau cyfreithiol â hysbysiadau statudol papur a anfonir atoch drwy’r post.

Os yw’n well gennych barhau i dderbyn hysbysiadau TWE a nodynnau atgoffa trwy Ymgyfnewid Data Electronig (EDI) neu ar bapur, gallwch ddewis peidio â’u cael dros y rhyngrwyd. Gallwch wneud hyn ar wefan GOV.UK trwy ddilyn y cysylltiad ‘Newid opsiynau hysbysiadau’ o’r dudalen ‘TWE Ar gip’. Fodd bynnag, mae CThEF yn cadw’r hawl i barhau i anfon gwybodaeth arall atoch, er enghraifft negeseuon gwasanaethau cwsmer a gwybodaeth am daliadau sy’n rhydd o dreth, drwy eich blwch post ar-lein. Os byddwch am newid dewisiadau nes ymlaen, dilynwch y cysylltiad ‘Newid opsiynau hysbysiadau’ o’r dudalen ‘TWE Ar gip’.

Os ydych yn Weinyddwr neu’n Ymarferydd Cynllun Pensiwn ac rydych wedi cofrestru a rhoi ar waith Gwasanaeth Cynlluniau Pensiwn CThEF, byddwn yn anfon hysbysiadau, nodynnau atgoffa a thystysgrifau atoch ar y rhyngrwyd yn awtomatig. Fodd bynnag gallwch ddewis eu cael ar bapur yn ogystal. Bydd gan hysbysiadau statudol (megis cydnabyddiaeth bod Cynllun Pensiwn wedi ei gofrestru) sydd ar y rhyngrwyd yr un dilysrwydd a goblygiadau cyfreithiol â hysbysiadau statudol papur a anfonir atoch drwy’r post.

Gwasanaethau gwybodaeth ar-lein

Os dymunwch, gallwch awdurdodi cwmni arall (o fewn grŵp o gwmnïau) i weld eich cofnodion rhwymedigaethau a thaliadau. Gall Gweinyddwyr Cynlluniau Pensiwn hefyd awdurdodi ymarferwyr i weithredu ar eu rhan. Sylwer, eich cyfrifol chi yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r awdurdodau a chysylltu â CThEF os ydych am ganslo unrhyw awdurdod sy’n caniatáu i gwmni arall weld eich cofnodion. Ni all CThEF dderbyn unrhyw atebolrwydd o ganlyniad i fethiant ar eich rhan i hysbysu CThEF o unrhyw newidiadau ynghylch rhoi awdurdod.

Defnydd awdurdodedig

Nid yw cyfrifon Gwasanaethau Ar-lein CThEF yn asedion trosglwyddadwy ac ni ellir eu trosglwyddo na’u gwerthu i wahanol endidau busnes. Lle mae perchnogaeth busnes yn newid, atgoffir sefydliadau hefyd i gyflawni eu rhwymedigaethau i gleientiaid a chwsmeriaid o dan Ddeddf Diogelu Data 1998 a’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR).

Talu trwy Ddebyd Uniongyrchol gan ddefnyddio gwasanaeth Debyd Uniongyrchol Ar-lein CThEF

Dylech fod yn ymwybodol o’r canlynol:

  • Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau y bydd CThEF yn derbyn taliad, ac y bydd wedi ei glirio i gyfrif CThEF, ar neu cyn y dyddiad talu. Gallai methu â gwneud hynny olygu y codir llog a/neu ordal.
  • Nid yw sefydlu Cyfarwyddyd Debyd Uniongyrchol a chynllun talu yn golygu bod CThEF yn cytuno naill ai â’r dyddiad(au) talu a nodwch neu i ohirio ymofyn am unrhyw ddyled sydd hwyr.
  • Caiff cynllun ad-dalu Credyd Treth ei dderbyn dim ond os yw’n cwmpasu’r rhwymedigaeth lawn am y cyfnod a nodir.
  • Mae cynllun talu yn rhoi’r modd i chi dalu tuag at rwymedigaeth Hunanasesiad yn y dyfodol. Nid yw’n golygu bod CThEF yn cytuno naill ai â’r dyddiad(au) talu a nodwch neu i ohirio mynd ar ôl unrhyw ddyled sy’n hwyr.

Trwy roi mynediad at Ddefnyddwyr a Chynorthwywyr, rydych yn rhoi mynediad at y gwasanaeth Debyd Uniongyrchol ar-lein i’r defnyddiwr hwnnw.

Talu TAW trwy Ddebyd Uniongyrchol gan ddefnyddio gwasanaeth Cyfarwyddyd Debyd Uniongyrchol ar-lein

Dyma’r eitemau a’r amodau ar gyfer talu’r TAW sy’n ddyledus ar Ffurflenni Treth trwy Ddebyd Uniongyrchol.

I dalu trwy Ddebyd Uniongyrchol, mae angen i chi’n gyntaf gofrestru ac ymrestru ar gyfer y gwasanaeth Ffurflenni TAW.

Mae’n rhaid i Ffurflenni TAW y mae Debyd Uniongyrcholi’w gasglu ar eu cyfer gael eu cyflwyno trwy ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein ar gyfer Ffurflenni TAW.

Dylech sicrhau y bydd eich Banc/Cymdeithas Adeiladu yn derbyn Cyfarwyddyd Debyd Uniongyrchol ar gyfer eich cyfrif enwebedig. Dim ond ar yr amod eu bod yn derbyn y DDI y gellir gwneud casgliadau’r Debyd Uniongyrchol.

Bydd cyflwyno Cyfarwyddyd Debyd Uniongyrchol yn gweithredu fel cadarnhad eich bod yn derbyn ac yn cydymffurfio â’r telerau ac amodau hyn.

Wrth gyflwyno Cyfarwyddyd Debyd Uniongyrchol ar-lein, rhaid i chi fod wedi eich awdurdodi i lofnodi ar gyfer y cyfrif. Rhaid mai chi yw unig lofnodwr y cyfrif, un o nifer o lofnodwyr y cyfrif, neu wedi eich awdurdodi i lofnodi ar ran yr holl lofnodwyr eraill.

Rhaid i chi hefyd fod yn gweithredu yn unol â’r cyfarwyddyd sydd gennych gyda’ch Banc/Cymdeithas Adeiladu.

Rhaid i’r cyfrif y cesglir eich Debyd Uniongyrchol ohono fod yn gyfrif banc sterling sydd wedi’i gofrestru yn y DU.

Y swm a gesglir bydd y TAW net sy’n ddyledus i CThEF fel a ddatganwyd ym mlwch 5 eich ffurflen TAW ar-lein. Rhaid i chi sicrhau bod arian digonol wedi ei glirio ac ar gael yn eich cyfrif i dalu’r swm sydd wedi ei ddatgan ar y diwrnod casglu. Byddwn yn eich hysbysu o’r dyddiad ar gyfer casglu ar-lein pan fyddwch yn cyflwyno eich Ffurflen Dreth.

Dim ond y swm a gafodd ei ddatgan ar eich Ffurflen TAW ar-lein a gaiff ei gasglu trwy Ddebyd Uniongyrchol. Rhaid i chi drefnu i dalu rhwymedigaethau TAW eraill (er enghraifft, gordal, cosbau neu log) trwy ddulliau talu amgen.

Mae’n bosibl y gallech fod yn agored i gosb ariannol os na chaiff eich Ffurflen Dreth ei chwblhau a’r holl TAW sy’n daladwy eu derbyn erbyn y dyddiadau cau. Os, am unrhyw reswm, rydych yn ymwybodol na fydd y Debyd Uniongyrchol yn cael ei gasglu’n llwyddiannus, rhaid i chi ddefnyddio dull amgen i dalu erbyn y dyddiad cau.

Ni fydd manylion y cyfrif Banc/Cymdeithas Adeiladu y gwnaethoch eu cyflwyno ar gyfer talu’r TAW sy’n ddyledus trwy Ddebyd Uniongyrchol (ac unrhyw newidiadau i’r manylion hynny a hysbysir i ni’n hwyrach) yn effeithio ar unrhyw fanylion cyfrif Banc/Cymdeithas Adeiladu arall y gallai fod gennym at ddibenion eraill h.y. ar gyfer ad-dalu hawliadau TAW.

Ni allwch ganslo neu ddiwygio eich Cyfarwyddyd Debyd Uniongyrchol trwy ein gwasanaeth ar-lein. Yn lle hynny, dylech hysbysu eich Banc/Cymdeithas Adeiladu a byddant yn rhoi gwybod i ni’n awtomatig am unrhyw newidiadau. Mae hyn yn cynnwys pan gaiff eich Cyfarwyddyd Debyd Uniongyrchol ei drosglwyddo i fanc neu gymdeithas adeiladu wahanol, neu pan gaiff ei drosglwyddo i gangen wahanol o fewn yr un banc/cymdeithas adeiladu. Byddwn ond yn gallu gwneud newidiadau a hysbysir drwy eich Banc/Cymdeithas Adeiladu.

Gwasanaeth Trosglwyddo Ffeiliau’n Ddiogel

Mae’r Gwasanaeth Trosglwyddo Ffeiliau’n Ddiogel yn galluogi ffeiliau a data i gael eu hanfon i neu eu derbyn oddi wrth CThEF. Mae’r gwasanaeth wedi ei warantu i drafod data dosbarthedig dan Gyfyngiadau (Effaith lefel 3) neu’n is. Mae diogelwch yn holl bwysig ar gyfer y gwasanaeth hwn a bydd angen i sefydliadau sy’n rhan ohono chwarae eu rhan er mwyn sicrhau nad yw’r gwasanaeth o dan fygythiad mewn unrhyw ffordd. Mae defnydd o’r gwasanaeth trwy wahoddiad yn unig, a byddai disgwyl i sefydliadau gwblhau’r broses gofrestru cyn y gellir caniatáu defnydd ohono. Yn arbennig, dylai sefydliadau sylwi bod yr amodau canlynol yn gymwys i’r gwasanaeth hwn.

Bydd sefydliadau yn gwneud y canlynol:

  • byddant yn cytuno i gadw manylion diogelwch allweddol yn unol â Pholisi Tystysgrif yr Awdurdod Tystysgrif sy’n rhoi’r dystysgrif allwedd gyhoeddus
  • byddant yn rhoi gwybod i CThEF ar unwaith petai eu hallwedd breifat o dan fygythiad am unrhyw reswm.
  • byddant yn gweithredu systemau a phrosesau sy’n cydymffurfio â Manylebau Rhyngwyneb a Dylunio
  • byddant yn sicrhau nad yw’r gwasanaeth hwn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer data a ddosberthir fel TAW ‘SecretPaying’ neu’n Gyfrinachol neu drwy Ddebyd Uniongyrchol gan ddefnyddio’r gwasanaeth Cyfarwyddyd Debyd Uniongyrchol TAW ar-lein
  • byddant yn cydnabod bod y defnydd o lofnod digidol CThEF ar ffeil ddata yn cadarnhau’n unig fod y ffeil wedi dod oddi wrth CThEF ac nad oes ganddo unrhyw ddilysrwydd neu ystyr arall

O ran ffeiliau data:

  • rhaid iddynt gael eu hamgryptio i safonau RFC 4880 gan ddefnyddio allwedd amgryptio gyhoeddus y derbynnydd.
  • rhaid iddynt gael eu llofnodi cyn eu hamgryptio gydag allwedd llofnodi gyhoeddus yr anfonwr
  • rhaid eu bod wedi eu hanfon i CThEF ar ôl i’r ddwy ochr gytuno a bod darpariaethau wedi eu gwneud ar gyfer eu prosesu.
  • rhaid iddynt gael eu henwi yn unol â safonau enwi
  • rhaid iddynt fod yn rhydd o feirysau

Rhaid hysbysu CThEF am unrhyw broblemau wrth ddefnyddio’r gwasanaeth i Ddesg Gymorth Gwasanaethau Ar-lein.

Pwyntiau ychwanegol i asiantau, cyfrifydd a chynrychiolwyr

Drwy gytuno i’r telerau ac amodau hyn, rydych hefyd yn cytuno i gadw at Safonau ar gyfer Asiantau CThEF. Os byddwch yn torri’r Safonau ar gyfer Asiantau, bydd CThEF yn cymryd camau i fynd i’r afael â’r achosion hynny o dorri’r rheolau. Gall hyn gynnwys atal eich mynediad at Wasanaethau Ar-lein CThEF ar unrhyw adeg.

Awdurdodiad

Er mwyn cael mynediad at ddata a chofnodion cleient, rhaid i’r cleient fod wedi eich awdurdodi i weithredu ar ei ran.

Mae’r gallu i gael mynediad at ddata a chofnodion cleient yn nodwedd annatod o rai Gwasanaethau Ar-lein CThEF. Os nad oes gan CThEF awdurdod Asiant dilys oddi wrth y cleient, ni allwch ddefnyddio unrhyw ran o’r gwasanaethau ar-lein hynny ar ran y cleient hwnnw, ar wahân i’r cyfleuster ‘Cyflwyno’n unig’ sydd ar gael ar gyfer TWE, Hunanasesiad neu Dreth Gorfforaeth.

Ni ddylech byth ofyn i unrhyw gleient rannu ei Ddynodydd Defnyddiwr a’i gyfrinair (neu Dystysgrif Ddigidol) gyda chi. Bydd gwneud hynny’n cael ei ystyried fel petaech yn torri safonau ar gyfer asiantau CThEF ac yn achos o gamymddwyn proffesiynol posibl. Dim ond drwy gael awdurdodiad a’i weld drwy’ch cyfrif Gwasanaethau Ar-lein asiant y gallwch gael gafael ar ddata cleientiaid.

Gwasanaethau cyflwyno ar-lein

Mae rhai Gwasanaethau Ar-lein CThEF (er enghraifft Hunanasesiad) yn caniatáu Asiantau a’u cleientiaid i weld manylion o Ffurflenni Treth a gyflwynwyd yn barod. Dylai Asiantau fod yn ymwybodol bod hyn yn golygu, pan fydd cleient yn newid Asiant, y bydd unrhyw Asiant newydd awdurdodedig yn gallu gweld y Ffurflenni Treth a gyflwynwyd ar-lein gan gyn-asiant(au) awdurdodedig. Pan fo cynasiant wedi bod yn enwebai er mwyn cael ad-daliad treth cleient, mae’r wybodaeth ar y Ffurflen Dreth yn cynnwys manylion cyfrif banc a chod didoli’r asiant.

Cyn i chi anfon Ffurflen Dreth, hawliad neu gais eich cleient, rhaid i chi wneud copi a gofyn iddo wneud datganiad yn cadarnhau bod cynnwys y Ffurflen Dreth, hawliad neu gais yn gywir hyd eithaf ei wybodaeth a chred. Cewch wedyn gyflwyno’r Ffurflen Dreth, hawliad neu gais. Mae CThEF yn eich cynghori chi, neu eich cleient, i gadw copi o’r Ffurflen Dreth, hawliad neu gais a datganiad eich cleient sy’n cadarnhau bod yr wybodaeth yn gywir hyd eithaf ei wybodaeth a chred.

Pan mai cwmni yw’ch cleient, cewch gwblhau’r datganiad ar ran y cleient cwmni hwnnw os yw’r cwmni wedi eich awdurdodi i wneud hynny. Yn y fath achosion, nid oes rhaid i chi wneud copi o’r wybodaeth cyn iddi gael ei hanfon.

Mynediad at y wasanaeth

Lle mae gan CThEF bryderon y gallai unrhyw fynediad heb awdurdod at wasanaethau ar-lein a data cwsmeriaid fod yn digwydd, mae CThEF yn cadw’r hawl i atal mynediad at wasanaethau ar-lein heb rybudd ymlaen llaw fel mesur diogelu data tra ymchwilir i’r mater. Bydd canlyniad yr ymchwiliad yn penderfynu a ellir dileu’r gwaharddiad dros dro. Bydd ymdrechion i osgoi gwaharddiad dros dro mewn unrhyw ffordd yn cael eu trin fel ymgais fwriadol i danseilio diogelwch ar-lein CThEF ac ymchwilir iddynt felly, gan gynnwys troseddau posibl o dan Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990.

Defnyddwyr Gweithle sy’n cael ei Rannu

Fel aelod cofrestredig o wasanaeth ar-lein Gweithle sy’n cael ei Rannu, cewch ddefnyddio a gweld cyfleusterau’r gwasanaeth yn amodol ar anghenion eich busnes. Byddwch yn ymwybodol bod eich defnydd o’r cyfleusterau yn amodol ar, ac yn golygu eich bod yn derbyn, y Telerau ac Amodau hyn o’r amser yr ydych yn cychwyn defnyddio’r gwasanaeth.

Gall CThEF ar unrhyw adeg newid y Telerau ac Amodau hyn. Dehonglir eich defnydd parhaus o’r gwasanaeth ar ôl y fath newid fel petaech yn derbyn y Telerau ac Amodau diwygiedig. Dylech sicrhau eich bod yn ail-ymweld â nhw’n rheolaidd er eich lles eich hunain.

Fel aelod, rhaid i chi gymryd pob cam rhesymol er mwyn sicrhau nad ydych yn creu, defnyddio, cadw, lawrlwytho, gosod, dosbarthu neu gylchredeg unrhyw ddeunydd, gan gynnwys delweddau, testun, meddalwedd neu gysylltiadau i wefannau sydd:

  • yn, neu gallai gael ei ystyried i fod yn anweddus neu’n fasweddus
  • yn, neu gallai gael ei ystyried i fod yn atgas neu’n sarhaus, gallai gael ei ystyried i fod yn ymosodiad personol, neu’n anfoesgar, rhywiaethol, hiliol neu’n annymunol yn gyffredinol
  • yn annog neu’n hyrwyddo gweithgareddau sy’n gwneud defnydd anghynhyrchiol o amser CThEF neu ei gilydd, er enghraifft anfon ‘e-byst cadwyn’
  • yn hyrwyddo unrhyw fusnes neu achos, yn ariannol neu fel arall, petai’n fasnachol, wleidyddol, diwylliannol, ethnig neu’n grefyddol
  • yn annog neu’n hyrwyddo gweithgareddau troseddol
  • yn ymwneud ag unrhyw weithgaredd tu allan i gwmpas y gwasanaeth ar-lein, er enghraifft, gwerthu neu hysbysebu nwyddau a gwasanaethau
  • â’r gallu i niweidio neu orlwytho systemau, rhwydweithiau a/neu gyfathrebiadau allanol CThEF
  • â’r posibilrwydd o fod yn ddifenwol; achosi rhwymedigaeth i CThEF neu aelod cofrestredig arall neu gael unrhyw effaith niweidiol
  • wedi ei warchod gan gyfreithiau hawlfraint

I atal pobl a all ddefnyddio eich cyfrifiadur yn hwyrach rhag cael mynediad at wybodaeth Gweithle sy’n cael ei Rannu a storir ar eich cyfrifiadur, rhaid clirio’r storfa dros dro o’r wybodaeth hon wrth adael Gweithle sy’n cael ei Rannu. I wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau perthnasol yng nghyfleuster ‘Help’ eich porwr rhyngrwyd.

Am ragor o arweiniad yn ymwneud â storio, yn benodol ar gyfer cwsmeriaid sy’n defnyddio’r ategyn, dilynwch y cysylltiad Defnyddio Gweithle sy’n cael ei Rannu: Cwsmeriaid sy’n Gweithio Gartref ac o Bell yn y llawlyfr busnes Gweithle sy’n cael ei Rannu.

Eich cyfrifioldeb chi yw sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei chadw’n ddiogel, ac yn unol â chanllawiau eich sefydliad.

Mae rhai gweithgareddau’n droseddau o dan Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • cyrchu deunydd cyfrifiadurol heb awdurdod (megis hacio; cyrchu cofnodion cwsmer a data a systemau corfforedig mewn ffordd anaddas, gan gynnwys cyfleusterau olrhain/chwilio)
  • cyrchu heb awdurdod, gyda’r bwriad o gyflawni (neu helpu eraill i gyflawni) troseddau pellach
  • addasu deunydd cyfrifiadurol heb awdurdod

Defnyddir unrhyw wybodaeth a gesglir drwy’r gwasanaeth hwn at ddiben arolwg mewnol yn unig, ac ni chaiff ei rhannu â sefydliadau eraill at ddibenion masnachol.

Caiff pob risg Technoleg Gwybodaeth (TG) eu canfod, rheoli a’u cymeradwyo gan uwch swyddog CThEF. Cyflawnir asesiadau risg yn rheolaidd ac yn annibynnol ar gyfer Gweithle sy’n cael ei Rannu.

Mae unrhyw gyfrifoldebau a rhwymedigaethau sydd gan CThEF tuag atoch wrth ddarparu’r gwasanaeth hwn ac unrhyw wasanaethau cysylltiedig wedi’u cyfyngu fel sydd wedi’u nodi yn Ymwadiad CThEF.

A yw’r dudalen hon yn gweithio’n iawn? (yn agor tab newydd)